PROSIECTAU
Braslun o Hanes Cynllun Bro DJ
Nod:
Nod y prosiect yw ehangu dwyeithrwydd a defnydd o’r Iaith Gymraeg o fewn i’r ardal (rhwng Mathri yn y gorllewin, Eglwyswrw i’r dwyrain a Treletert a Chas-mael i’r de).
Pam?
Oherwydd cefnogaeth pobl leol i gymeriad ieithyddol yr ardal a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
Sut?
Trwy ddod â phobl leol a mudiadau o bob math at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth.
Yn ogystal â phobl leol, mae’r sefydliadau canlynol yn cefnogi’r prosiect: Menter Iaith Sir Benfro; Bwrdd yr Iaith Gymraeg; Cyngor Sir Penfro; Awdurdod Datblygu Cymru; Menter a Busnes; Clybiau Ffermwyr Ifanc; Yr Urdd; PLANED; Theatr Fforwm Cymru; Coleg Penfro; Ysgol Bro Gwaun ac ysgolion cynradd y fro; Mudiad Ysgolion Meithrin.
Dwy Iaith y Fro:
Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o fywyd cymunedol y fro.
Mae dros 40% o bobl y fro yn gallu siarad o leia tipyn o Gymraeg.
Mae nifer cynyddol o blant y fro yn dysgu ac yn defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgolion ac mae’n orfodol i addysgu Cymraeg i blant a phobl ifanc rhwng 5 ac 16 oed.
Barn y Bobl*
Mae gan y Gymraeg ddyfodol fel Iaith fyw, yn ôl 94% o atebwyr.
Mae dros 80% o bobl yn dweud ei bod hi’n bwysig i blant ddysgu siarad Cymraeg.
Mae bod yn ddwyeithog yn helpu i chi gael gwaith yn ôl 70% o bobl.
Sut mae’r Prosiect yn helpu?
Trwy ymateb i’r angen a’r galw lleol o ran cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
Trwy ddod â phobl a sefydliadau at ei gilydd er lles y gymuned.
Trwy helpu i gynnal gweithgareddau presennol a threfnu digwyddiadau newydd.
Trwy roi gwybodaeth am addysg ddwyeithog, a chyrsiau Cymraeg i Oedolion.
Trwy roi gwybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg lleol.
Helpwch ni i ddiogelu dyfodol dwyeithog i’r fro drwy gefnogi’r prosiect.



