IEUENCTID
Rhoi cyfleodd i bobl ifanc y Sir i gymdeithasu a gael hwyl drwy gyfrwng y Gymraeg.
-
Cynnal Clybiau Hwyl amser cinio/ar ôl ysgol yn Ysgolion Uwchradd y Sir.
-
Cydweithio â threfnwyr C2 a Radio Cymru i chynnal Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau a Taith C2.
-
Cynorthwyo disgyblion sydd ar Prosiect Cefnogi Arferion Iaith.
-
Digwyddiadau Hwylus yn gael ei drefnu i’r pobl ifanc yn achlysurol.
Gweithgaredd cyntaf Fforwm Ieuenctid MISB ar y cyd â Phwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013.
Ar y 28ain o Ragfyr 2010, cynhaliwyd digwyddiad codi arian cyntaf i Eisteddfod yr Urdd, Sir Benfro 2013 yn Neuadd y Farchnad, Crymych. Pwyllgor Ieuenctid y Steddfod oedd yn gyfrifol am drefnu’r gig gyda thri band yn chwarae. Band lleol - Hanweddus, band o Gaerfyrddin - Y Cyfoes ac Elin Fflur a’r band yn brif artistiaid i’r noson.
Roedd y gig yn un llwyddiannus iawn gyda thua 180 yn bresennol ar adeg pan oedd nifer fawr o bobl adref yn mwynhau’r Nadolig. Gwnaethpwyd elw o dros £600. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r sawl a wnaeth gynorthwyo i wneud y noson yn un llwyddiannus. (Diolch i’r lleoliad, Menter Iaith Sir Benfro, Radio Cymru, Bill ac Eirlys Davies a bois y bar, Robert Thomas, Hubert a bois y sain ac i’r pwyllgor ei hun ac i bawb a gefnogodd ar y noson.) I weld lluniau o'r gig, cliciwch yma.
Diwrnod Hwyl a Gig yr Haf
Bu criw Pwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 a Fforwm Ieuenctid Menter Iaith yn brysur iawn yn trefnu'r diwrnod a gynhaliwyd yng Nghrymych ar Awst 13.
Cafodd y diwrnod ei gynnal ar gae Rygbi Clwb Rygbi Crymych le'r oedd cystadlaethau Gemau Heb Ffiniau a gweithgareddau hwylus arall ymlaen.
I orffen y diwrnod bant mewn steil cynhaliwyd Gig yn Neuadd y Farchnad yn y pentref. Roedd yna dalent lleol yn perfformio yn cynnwys: Clwb Ffermwyr Ifanc Hermon, Megan Williams a’r Band, Hanweddus a DJ Jason Phillips i gloi'r noswaith.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor hoffem ddiolch i’r aelodau a wnaeth helpu gyda’r trefniadau mawr cyn ac yn ystod y diwrnod a hefyd ddiolch i’r rhai wnaeth helpu gwneud y diwrnod yn fwy hwylus a phawb a wnaeth ddod i gefnogi. Bu’n ddigwyddiad llwyddiannus iawn gyda swm sylweddol yn cael ei chodi tuag at yr Eisteddfod yn 2013.Hoffem hefyd estyn croeso i aelod newydd sydd am ymuno a’r pwyllgor.
(Mi fydd y Pwyllgor nesaf yn cael ei chynnal yn Ystafell Cynadledda Llyfrgell, Crymych - Medi 8fed am 6:00).
Canlyniadau’r Diwrnod:
Tîm buddugol yn y Gemau Heb Ffiniau oedran 12-16 oedd Tîm ‘O Gwmpas y Byd’ (Gwyndaf Lewis, Guto Harries, Daniel Griffiths, Sara Watkins, Naomi Nicholas a Mared Harries.
Tîm buddugol yn y Gemau Heb Ffiniau oedran 17+ oedd Tîm ‘Bois y Cownsil’ (Gwilym Jenner, Rhodri Lewis, Andrew Richards, Dafydd Vaughan, Rheinallt James ac Iolo James).
Cystadleuaeth Dyfalu Nifer o Falwns mewn Fan: Ateb cywir oedd 304 o falwns. Enillydd oedd Cerys Harries (Gwobr o £20 yn rhodd gan Catrin ac Eifion Howells - Ardion a thiced i’r Gig).



