Menter Iaith Sir Benfro Logo Sir Benfro
Cyngor Sir Penfro - Pembrokeshire County Council
  Bwrdd Yr Iaith Cymraeg - Welsh Language Board
 
 
Andanom Ni
 

_________________________________________________________________________________________________________________________________________

!!!NEWYDDION!!

Wythnos Cymraeg yn Gyntaf yn dod i Grymych

 

 

 

Brwydr y Bandiau ~ C2 Radio Cymru a Mentrau iaith Cymru ~ Cystadleuaeth ar gyfer Bandiau ifanc

Llongyfarchiadau i fand ifanc o Sir Benfro am gyrraedd Rownd Derfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru a Mentrau iaith Cymru.

Alex, Sam, Lawrence a Tom yw'r pedwar tu ol i'r Hybridz a maent yn ddisgyblion blwyddyn naw yn Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau.

Bu Nia o'r fenter yn ddigon ffodus i gydweithio gyda'r criw a mwynhau mas draw yn eu cwmni. Dywedodd

"Mae'r bois yn gret ac yn llawn bwrlwm. Mae'n amlwg fod cerddoriaeth yn bwysig iddyn nhw, a maent eisiau gweld datblygiaf y Sin Roc Gymraeg yn Sir Benfro!"

I gyrraedd y rownd derfynol bu'r  Hybridz yn canu eu ffordd drwy'r rownd sirol yng Nghlwb Rygbi Crymych a'r Rownd Rhanbarthol yn Neuadd Bronwydd. Wedi llwyddo roedd hi'n bryd ymweld a'r stiwdio recordio a roedd gweld eu ymateb wrth gael y fath gyfle yn wych. Cafwyd diwrnod bendigedig yn stiwdio fflach Aberteifi i recordio'r gan i'w chwarae ar Radio Cymru. Noson y rownd cynderfynol a'r bechgyn prin yn gallu credu fod ei taith yn parhau. Ar Nos Fawrth, Nos Fercher, A Nos Iau 27,28,29 o Fawrth cynhaliwyd y rownd cyn-derfynol a'r cyhoedd yn penderfynu pwy fyddai'n cael cystadlu yn y rownd derfynol.

Roedd y bwrlwm yn codi eto pan ddaeth Uned 5 i ffilmio'r criw am eu bod yn y ffeinal. Bu'r criw ffilmio gyda'r bechgyn am rhai oriau yn ffilmio a chyfweld a'r bechgyn yn mwynhau pob eiliad o'r profiad!

Ac yna daeth yr awr fawr y ffeinal....

Daeth y bechgyn i'r tri olaf a rhaid gweud ei bont yn hapus iawn eu byd!

Gwyliwch allan am yr Hybridz mewn gigiau ar draws y sir yn y dyfodol neu os ydych yn ffan ac am fwy o wybodaeth dilynwch y links isod i glywed mwy!

http://www.bbc.co.uk/go/cymru/radiocymru/c2/byb/hybridz07.shtml/ext/_auto/-/http://www.myspace.com/thehybridz123

Y band mewn brawddeg (yn eu geiriau eu hunain):
Band sydd eisiau dod a cherddoriaeth nol i Sir Benfro, hefo bwyell yn ein dwylo a merched yn ein dilyn" (ai dyna yw cyfiaethiad cywir "with ore axes in hand and are maidens in tow."?)

Cwmni Drama Newydd yn Abergwaun

                                                                                      

Mae Cwmni drama newydd wedi sefydlu yn Abergwaun a'r fro ac wedi dechrau mewn steil hefyd! Roedd Theatr Gwaun o dan ei sang ar gyfer agoriad eu sioe gyntaf "O dan y Don". Bu'r cwmni yn ddigon ffodus i dderbyn nawdd grant oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn gwlad Cymru a Cyngor Sir Penfro. Yn sgil y nawdd comisiynwyd Catrin Dafydd i sgriptio'r ddrama a Derrick Rhys Williams i gyfarwyddo. Wedi wythnosau prysur o ymarfer yn Nhreletert, Croesgoch ac Abergwaun roedd y sioe yn barod. Roedd yna un syrpreis ar gyfer y cast gan fod y fenter wedi trefnu i Geraint Lloyd ddarlledu ei rhaglen Radio Cymru yn fyw o'r theatr a cafodd nifer dda o'r cast y cyfle i siarad ar y radio cyn y perfformiad.

        Hefyd yn y gynulleidfa'r noson honno roedd Mr Gerson Davies cyfarwyddwr addysg Sir Benfro ac roedd e'n awyddus i weld y sioe yn cael ei pherfformia ar gyfer plant ysgolion cynradd ac uwchradd ardal Abergwaun, felly wedi trafod gyda'r cast a'r ysgolion trefnwyd yr ail berfformiad ar gyfer y 3ydd o Fai. Ond nid dim ond un perfformiad oedd y tro hwn. Ar fai'r 3ydd bu'r cast ar y llwyfan dair gwaith. Yn y bore ar gyfer plant ysgolion cynradd, yn y prynhawn ar gyfer plant ysgol uwchradd a perfformiad cyhoeddus yn y nos. Eto roedd y theatr yn llawn! Cafodd blant yr ysgolion daflenni gwaith i'w cwblhau a roedd pawb wedi mwynhau'r profiad.

        Bellach mae'r cwmni Drama wedi sefydlu ei hunain ac yn barod i ddechrau gwaeithio ar ei sioe nesaf! Mae croeso i unrhyw un o ardal Abergwaun sydd a diddordeb mewn fod yn aelod o'r cwmni drama gysylltu a Nia George yn y Fenter iaith am fwy o wybodaeth. Mae DVD o'r sioe hefyd ar gael o'r fenter am bris o £3. Bydd holl elw'r DVD's yn mynd at gronfa'r Cwmni Theatr.

Ysgol Bro Gwaun

Mae'r Fenter wedi creu partneriaeth gyda Ysgol Bro Gwaun ac yn cynnal gweithdai drama yno uwaith yr wythnos i ddisgyblion blynyddoedd 7,8 a 9. Mae'r criw yn cwrdd yn ystod eu awr ginio i ddysgu actio. Maent yn griw gweithgar ac yn dysgu'n gyflym ac eisoes wedi dechrau sgriptio gwaith eu hunain. Rydym yn mawr obeithio bydd y criw yn cael y cyfle i berfformio darn o'u gwaith yn yr ysgol ac y bydd rhai o'r rhai sy'n cymryd rhan yn ymuno a'r cwmni Theatr. Hefyd yn yr ysgol mae criw o flynydddoedd 7,8,9 a 10 wedi dod at eu gilydd i drefnu digwyddiadau Cymraeg o fewn yr ysgol.  Mae'r criw yn gweithio ar syniad cyffrous iawn, edrychwch allan am fwy o wybodaeth!

Ysgolion Cynradd

Mae staff y fenter wedi bod yn hwyluso sesiynau Urdd ar gyfer ysgolion Cynradd. Rydym wedi bod yn Ysgol Croesgoch, Wdig, Cas Mal a Glannau Gwaun yn gwneud amrywiaeth eang o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer adrannau'r Urdd gan gynnwys............

gemau o bob math, bingo, chwaraeon potes, cwis a sesiynnau arbennig ar gyfer diwrnodau arbennig Cymraeg megis diwrnod Santes Dwynwen a Dydd Gwyl Dewi

 

 

 

 

Clybiau gwyliau i blant ardal Abergwaun

Bydd sesiynnau i blant yn digwydd unwaith eto yn ystod hanner tymor mis Hydref yn Abergwaun. Mae manylion wedi cael eu danfon i'r ysgolion. Am fwy o fanylion cysylltwch a Nia ar 01348873700.

 

 

Bwydlenni Dwyieithog

Cegaid Cymraeg

taflen i fusnesau

Mae ymgyrch wedi ei lansio i annog bwytai a chaffis yn Sir Benfro a Cheredigion i ddarparu bwydlennidwyieithog i'w cwsmeriaid. Mae Menter Iaith Sir Benfro mewn partneriaeth â Chynllun Gweithredu Iaith Aberteifi a Cered wedi cynhyrchu taflen a fydd yn cael eu dosbarthu i holl lefydd bwyta'r ardal er mwyn cynnig cyfieithu bwydlenni iddyn nhw yn rhad ac am ddim.

I gyfieithu bwydlenni, neu i gael gafael ar gopi o'r daflen, cysylltwch â Rhidian Evans, Swyddog Maes Menter Iaith Sir Benfro.

Siani'r Sietland ar daith!

Mae awdures y llyfrau plant poblogaedd Siani'r sietland, Anwen Francis wedi bod ar daith yn ddiweddar oamgylch ysgolion cynradd Sir Benfro. Mewn partneriaeth rhwng y fenter iaith ac adran addysg sir benfro mae Anwen wedi bod yn ymweld a nifer o ysgolion yn siarad a chynnal gweithdai gyda'r plant. Ond doedd Anwen ddim ar ei phen ei hun oherwydd ble bynnag mae Anwen mae Siani hefyd. Mae'r plant wrth ei bodd yn gweld un o'i hoff gymeriadau yn fyw! Ewch i'r oriel luniau i weld mwy.......