CROESO!
GWNEWCH Y PETHAU BYCHAIN
Adnodd Menter Iaith Sir Benfro ar gyfer hybu’r defnydd o’r Gymraeg Bwriad yr adnodd hwn yw annog pawb ohonom yn Sir Benfro i gynyddu ein defnydd o’r Gymraeg er mwyn sicrhau ei goroesiad. Mae’r Gymraeg yn perthyn i Sir Benfro gyfan ac mae’r canllawiau hyn yn cynnig dulliau ymarferol o ledaenu ei defnydd. Byddwch wrol a manteisiwch ar bob cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg o ran balchder ac o ran rhoi cyfle i bawb i’w chlywed a’i gweld yn gyson. Byddai mabwysiadu’r canllawiau hyn yn ychwanegu at y stôr o ewyllys da sydd i’r iaith ymhob cwr o’r sir. Trwy ddefnyddio’r Gymraeg yn fynych y gwelir ei gloywi a’i pharhad. Trwy ddefnyddio’r Gymraeg yn anfynych y gwelir ei herydu a’i thranc.
I weld y ddatganiad sy'n cyd-fynd â'r ddogfen, cliciwch yma.
Mae’r adnodd ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ ar gael ar ffurf CD neu gellir ei lawrlwytho yma.
DIGWYDDIADAU
Cliciwch ar boster i'w ehangu ![]()
Cliciwch ar boster i'w ehangu ![]()






