AMDANOM NI
Nod Menter Iaith Sir Benfro yw hybu ac ehangu defnydd o'r Gymraeg o fewn y sir.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
-
Help ymarferol, yn aml yn rhad ac am ddim.
-
Gwasanaeth cyfieithu wrth lunio tocynnau, rhaglenni, posteri ac arwyddion.
-
Offer Cyfieithu ar y Pryd.
-
Gwybodaeth a chyngor i fudiadau gwirfoddol a chymunedol, cynghorau, cyrff cyhoeddus a chwmnioedd.
-
Gwybodaeth am Gylchoedd Meithrin, Addysg Gymraeg a Chyrsiau Cymraeg i Oedolion.
-
Gwybodaeth am ddigwyddiadau cymdeithasol a chelfyddydol megis dramau a chyngherddau.
-
Cyfle i gymeryd rhan mewn digwyddiadau megis diwrnodau hwyl, gigs a chwisiau.



